en

An Dannsa Dub

Gan gyfuno cerddoriaeth werin draddodiadol
Albanaidd, reggae dub a cherddoriaeth
ddawns, mae An Dannsa Dub yn creu cyfuniad
bywiog o sain. Mae eu henw, Gaeleg ar gyfer
“Dawns y Dub,” yn adlewyrchu eu dathliad
o rythmau Gaeleg hynafol a Gorllewin Affrica
– union wreiddiau reggae – ac esblygiad y
dylanwadau hyn i ddiwylliant system sain a
cherddoriaeth ddawns fodern.
Mae eu sioeau
byw yn sianelu egni cymunedol cèilidh a
phŵer curiadus sesiwn system sain.
Mae uchafbwyntiau eu taith hyd yn hyn yn
cynnwys trydaneiddio torf o 10,000 yn Ffair
Boomtown a rhoi llwyfan i sioe a werthodd
bob tocyn yn Celtic Connections, gŵyl
gerddoriaeth Geltaidd orau’r DU.
Bydd y band yn cael ei gefnogi ar y noson gan
Gower Soundclash, gan ddod â blasau dub
unigryw, telynegiaeth drawiadol a naws parti
o Benrhyn Gŵyr.
Drysiau: 6.30yh
Gower Soundclash: 7pm
An Dannsa Dub: 8pm